#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-819

Teitl y ddeiseb: Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Testun y ddeiseb: Y Gymraeg yw un o nodweddion amlycaf Cymru, ac mae ein hanes a'n diwylliant wedi'u cydblethu ag un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Mae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru'n unigryw. Mae'r hen enwau Cymraeg hyn yn aml yn ddisgrifiadol a'u gwreiddiau'n ddwfn yn hanes y lle.

Mae cynnal ein hunaniaeth a'n treftadaeth Cymraeg yn bwysig i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.

Gwybodaeth ychwanegol: Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a'n hiaith unigryw. Byddai Cymry Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi hyn. Byddai hefyd yn helpu i feithrin ein prif nodwedd unigryw ar lwyfan y byd - rhywbeth y mae twristiaid yn caru ei weld.

Y cefndir

Yn y Pedwerydd Cynulliad, trafodwyd y syniad o ddefnyddio'r system diogelu treftadaeth (sy'n cynnwys cynlluniau cydsyniad ar gyfer newidiadau i adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig) i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol wrth graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (a ddaeth yn ddeddf yn 2016).

Yn ystod y gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil, cododd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y mater hwn gyda Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, (sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth) a ddywedodd: “I'm not convinced that there are any legislative controls that could be regulated to enhance the protection of place names.”

Credai'r Dirprwy Weinidog fod y bwriad i osod y cofnodion amgylchedd hanesyddol (mae'r rhain yn gofnodion sy'n storio gwybodaeth sydd wedi'i threfnu'n systematig am yr amgylchedd hanesyddol ac asedau hanesyddol penodol mewn ardal benodol, ac yn darparu mynediad ati) ar sail statudol (adran 33) yn helpu i hyrwyddo'r cysylltiad a chadw gwybodaeth am enwau lleoedd, a sicrhau bod gwell gwybodaeth yn cael ei chasglu am enwau lleoedd yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen am weithio gyda pherchnogion er mwyn sicrhau eu bod yn llwyr werthfawrogi arwyddocâd hanesyddol eu hasedau, ac mai dyna'r peth gorau i'w wneud, a'r ffordd orau o atal newidiadau diangen i enwau lleoedd.

Yn ei adroddiad dilynol, argymhellodd y Pwyllgor y canlynol:

Argymhellwn fod adran 33(2) o'r Bil yn cael ei diwygio i gynnwys cyfeiriad penodol at enwau lleoedd hanesyddol a bod y Dirprwy Weinidog yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i roi effaith i hyn.

Cafodd y Bil ei ddiwygio wedyn yn y modd hwn. Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) bellach yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru greu a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru.

O ran cynnwys y rhestr hon, mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn nodi:

Mae enwau lleoedd hanesyddol yn dystiolaeth werthfawr o ran hanes cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol. Mae enwau aneddiadau, tai a ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn darparu gwybodaeth am arferion amaethyddol y presennol a’r gorffennol, diwydiannau lleol, sut mae’r dirwedd wedi newid a chymunedau’r presennol a’r gorffennol. Maent yn dystiolaeth o ddatblygiad treftadaeth ieithyddol gyfoethog — yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.

Ceir rhagor o wybodaeth ar t.31-33: http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/pri-ld10184-em-r/pri-ld10184-em-r-w.pdf

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymateb sy'n manylu ar ei chamau gweithredu yn y maes hwn. Mae'n nodi bod Llywodraeth Cymru, yn dilyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), wedi cyflwyno rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol. Mae'n nodi:

Statutory guidance requires local and National Park authorities and Natural Resources Wales to take account of the list when their functions involve naming or renaming places. This includes the naming or renaming of streets, properties and other places, either directly or by another party. The intention is that the operation of the list and the statutory guidance together will lead to a reduction in the number of formal changes to historic property names. It will also encourage the use of historic names for new developments.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau arfer da ar ddefnyddio enwau lleoedd hanesyddol yn 2018.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn nodi:

these measures stop short of providing formal protection for historic place names. Detailed consideration was given to providing statutory protection for historic place names during the development of the 2016 Act, when a number of representations similar to the current petition were made. However a number of significant issues, including enforcement, potential additional burdens on local authorities and human rights, militated against it.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Ionawr 2017, enillodd Dai Lloyd AC y balot i gynnig bil Aelod: Datblygu Bil Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Darparodd Dai Lloyd AC y Memorandwm Esboniadol a ganlyn cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, a gynhaliwyd ar 15 Mawrth. Nododd y Memorandwm Esboniadol fod ystod o ddulliau y gellid eu cymryd i ddiogelu enwau lleoedd, gan gynnwys:

§    Sicrhau bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o arwyddocâd hanesyddol enwau lleoedd;

§    Cyflwyno gofyniad ar dirfeddianwyr neu gyrff cyhoeddus i ymgynghori â chorff cyhoeddus a bennir (neu gyrff cyhoeddus a bennir) wrth newid enw lle hanesyddol;

§    Cyflwyno trefn gydsyniad wrth geisio newid enw lle hanesyddol;

§    Cyflwyno trefn gwaharddiad cyffredinol ar newid enw lle hanesyddol;

§    Ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr neu gyrff cyhoeddus ddefnyddio enwau lleoedd hanesyddol wrth lunio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd; a

§    Chyfuniad o'r opsiynau gwahanol uchod, a allai ddibynnu ar y math o enw neu sefyllfa lle gallai newid enw ddigwydd.

Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bil, ac ni chafodd y caniatâd i fwrw ymlaen. Gellir darllen trawsgrifiad o ddadl y Cyfarfod Llawn yma.

Fel rhan o'i ymchwiliad diweddar i'r Amgylchedd Hanesyddol, bu'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn trafod y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Nododd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i fynd ati i adolygu'r mater a bod yn barod i gyflwyno mesur diogelu arall ar gyfer enwau lleoedd hanesyddol os na fydd y rhestr bresennol yn effeithiol.

Mae papur briffio Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddeiseb hon yn nodi:

We have already made a commitment to review the effectiveness of the List of Historic Place Names of Wales and the associated non-statutory measures in encouraging the retention of historic place names. My officials at Cadw are liaising with local authority street naming and numbering officers to establish mechanisms for the regular collection of data on the use of the list in the naming and renaming of properties in accordance with the statutory guidance. It is expected that it will take a least four or five years to collect sufficient evidence to evaluate the impact of these measures.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.